
Mae Ynni Ogwen yn cynnig gwasanaeth newydd lle gall ein cynghorydd newid cyflenwr gymwys, Beca Roberts, eich helpu i wneud arbedion sylweddol ar eich biliau ynni.
Os nad ydych erioed wedi newid cyflenwr ynni efallai y byddwch yn edrych ar werth hyd at £300 y flwyddyn o gynilion, a hyd yn oed os ydych chi wedi newid tariff, efallai y byddwch yn dal i allu gwneud rhai arbedion. Mae cael y cyfraddau cystadleuol hyn yn gymharol hawdd, a gall ein llyfryn canllawiau sydd ar gael ar ein gwefan eich tywys gam wrth gam drwy'r broses.
Fel arall, ffoniwch ein swyddfa ar 01248602131 a threfnwch ymgynghoriad rhad ac am ddim. Yn ystod yr ymgynghoriad hwn, bydd ein cynghorydd yn gallu trafod eich opsiynau ac eich helpu i newid cyflenwr.
LAWRLWYTHIADAU
- [size: 88 kB]
- Switching Poster [size: 85 kB]
- Switching Guide [size: 693 kB]
- Canllawiau Newid Cyflenwr [size: 721 kB]
Tudalen Wedi Ei Diweddaru: 22/02/17