
Mae Dyffryn Gwyrdd yn brosiect wedi'i leoli yn Nyffryn Ogwen sy'n canolbwyntio ar gynaliadwyedd a'r amgylchedd, wrth fynd i'r afael â lles meddyliol, gwahanol fathau o dlodi, ac arwahanrwydd gwledig. Fe'i hariennir gan y Loteri Genedlaethol a bydd yn rhedeg am dair blynedd, rhwng Medi 2020 a 2023.
Byddwn yn datblygu’r Dyffryn Gwyrdd i fod yn esiampl o ddatblygiad cynaliadwy gyda chynllun trafnidiaeth gymunedol werdd, cynnal gerddi cymdeithasol, creu systemau i gynhyrchu a dosbarthu bwyd a phrydau, creu cynnydd mewn cyfleoedd gwirfoddoli, gwella sgiliau a chreu swyddi.
Byddyn hefyd yn datblygu Hwb y Dyffryn Gwyrdd yn Stryd Fawr Bethesda i fod yn ganolfan ar gyfer cyngor a chymorth ar effeithlonrwydd ynni i’n trigolion. Bydd hyn yn grymuso’n cymunedau i wireddu’n gweledigaeth o gymuned deg, gynaliadwy ddwyieithog sy’n cydweithio i liniaru ar dlodi drwy gydweithio amgylcheddol.
Holiadur Costau Byw
Rhannwch eich barn am sut mae'r argyfwng costau bywyd yn effeithio arnoch chi a'r gymuned drwy gwblhau ein holiadur Costau Byw ar-lein yma:
https://forms.gle/hrdT811LKkPFhdbT8
Neu cysylltwch â Enable JavaScript to view protected content. i dderbyn copi caled neu gopi ysgrifen bras.
Gwirfoddoli
Mae yna nifer o wahanol gyfleoedd gwirfoddoli ar amrywiol brosiectau Partneriaeth Ogwen. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Enable JavaScript to view protected content.
Galeri




Tudalen Wedi Ei Diweddaru: 14/12/22