Fel rhan o'r prosiect Dyffryn Caredig byddwn yn apwyntio Swyddog Beics yn gynnar yn 2024. Golyga hyn y byddwn yn ail-ddechrau'n seisynai poblogaidd yng Nghanolfan Cefnfaes, Bethesda ar brynhawn Gwener.
- Mae beiciau trydan a beiciau arferol ar gael i'w llogi neu eu benthyg.
- Mae gennym feiciau hygyrch a beiciau ochr yn ochr.
- Bydd gennym wasanaeth trwsio beics hefyd - holwch am argaeledd a phrisiau.
- Gallwn hefyd ddarparu cyngor ar retro-osod moduron trydan, a beiciau yn gyffredinol.
Mae Beics Ogwen yn rhan o Dyffryn Caredig, prosiect diweddaraf Partnerieth Ogwen a ariennir gan y Loteri Genedlaethol. Ein nod gyda Beics Ogwen nod yw hyrwyddo lles a'r amgylchedd trwy annog mwy o bobl i feicio yn amlach.
Cysylltwch hefyd os hoffech chi wirfoddoli i drwsio beiciau, neu os hoffech chi roi beiciau, rhannau neu offer.
Trefnir digwyddiadau trwy gydol y flwyddyn, sydd i'w gweld ar dudalen Dyffryn Caredig ar y wefan hon, neu ar dudalen Facebook Partneriaeth Ogwen.
Cysylltwch Enable JavaScript to view protected content. am fanylion pellach.
Gweler y dudalen hon ar ein gwefan gymunedol am fwy o wybodaeth.
Galeri
Tudalen Wedi Ei Diweddaru: 19/12/23