
Yn sgil y pandemig, rydym wedi adnabod bwlch o ran darpariaeth bwyd iachus a maethlon I’r henoed sy’n gorfod hunan-ynysu yn Nyffryn Ogwen. Yn ogysal a’r ddarpariaeth bwyd, mae unigedd wedi bod yn sialens i’r henoed yn sgil y pandemig. Yn ystod 2020, fuom ni'n rhedeg cynllun Cyfaill Cymunedol sy’n danfon bwyd wedi ei gynhyrchu gan Gaffi Coed y Brenin (menter gymdeithasol arall leol) i gartrefi lleol. Yn ystod danfoniadau, mae’r Cyfaill Cymunedol yn cael sgwrs efo’r unigolyn gan roi cyfle iddynt gymdeithasu ond mae hefyd yn gyfle i adnabod unrhyw heriau a wynebir gan y unigolyn. E.e. Rydym wedi cydweithio efo Adran Gwasanaethau Cymdeithasol ac eraill yn barod i adnabod a gwella sefyllfa un cwpwl oedrannus sy’n dioddef tlodi ac unigedd yn sgil y pandemig. Mae’r cynllun yn gyfle i ddefnyddio gwasanaeth danfon bwyd i gynnig gofal integredig ar y cyd a phartneriaiad. Mae llwyddiant y prosiect peilot hwn hyd yma yn dangos yr angen sydd ymysg trigolion bregus yr ardal am gyfleoedd bwyd a chymdeithasu. Mae’r prosiect newydd hefyd yn mynd i daclo y problemau hyn. Erbyn hyn, gyda'r pandemig yn llacio rydym yn edrych ar gludo unigolion i gyfleoedd llesiant a chymdeithasol yn eu cymuned (weler wybodaeth ar y poster digwyddiadau). Mae'r gwasanaeth cludo bwyd yn digwydd unwaith yr wythnos ar Ddydd Iau. Rydym hefyd yn cynnig gwasanaeth cartref fel rhan o'r cynllun cyfaill cymunedol |
Galeri




Tudalen Wedi Ei Diweddaru: 14/03/22