
Mae
Mae Hwb Ogwen yn dod a phobl at ei gilydd i gefnogi iechyd a lles, atal tlodi a chreu cymuned ofalgar sy'n edrych ar ol ein gilydd. Mae hyn yn cynnwys rhedeg banc bwyd 'Pantri Pesda', rhoi cyngor atal tlodi, trefnu digwyddiadau cymdeithasol ar draws y Dyffryn i drafod sut i arbed ynni, cadw'n gynnes a llawer mwy.
Ar agor pob Dydd Mawrth a Iau 10 - 6pm.
57 Stryd Fawr. 01248 602131 // Enable JavaScript to view protected content.
Gweler y dudalen facebook yma am fwy o wybodaeth
Mae parseli bwyd hefyd ar gael - ffoniwch 07862694163
Holiadur Costau Byw
Rhannwch eich barn am sut mae'r argyfwng costau bywyd yn effeithio arnoch chi a'r gymuned drwy gwblhau ein holiadur Costau Byw ar-lein yma:
https://forms.gle/hrdT811LKkPFhdbT8
Neu cysylltwch â Enable JavaScript to view protected content. i dderbyn copi caled neu gopi ysgrifen bras.
Fidios Resetiau Pantri (gan Angharad Griffiths)
Fidio rysait hawdd fel rhan o raglen Pantri yn defnyddio cynnyrch o Pantri Pesda. Gwyliwch allan am fidio rysaitiau blasus newydd yn wythnosol rhwng rwan a’r Nadolig. Cardiau rysait i gydfynd ar gael yn ddigidol neu fel copi caled - cysylltwch am rhagor o wybodaeth: Enable JavaScript to view protected content. Rydym yn ddiolchgar i Gronfa Gymunedol y Loteri a Llywodraeth Cymru am gefnogi'r prosiect hwn.
Dyma restr o'r resetiau ar gael ar ein sianel YouTube:
Weler cardiau rest isod
Galeri





















Tudalen Wedi Ei Diweddaru: 24/04/23