Swyddog Marchnata Lleol
"Rydw i wedi bod yn angerddol am faterion amgylcheddol ers yn ifanc ac rwy'n dwlu bod yn rhan o gymuned ryfeddol Dyffryn Ogwen."
Cafodd Tom ei eni a'i fagu ym Methesda. Mae bellach yn byw yn Gerlan, gyda'i wraig a'i dri bachgen.
Mae wedi ysgrifennu, tynnu lluniau, a chreu fideos ar gyfer busnesau a sefydliadau o bob main a math.
Mae wedi tynnu lluniau Aelodau o'r Teulu Brenhinol, gwleidyddion o bob stribed, hyd at y cyn-Brif Weinidog David Cameron, ac enwogion megis Pink Ffloyd.
Mae wedi gweithio gyda Google, y BBC, a chylchgronau a phapurau newydd cenedlaethol.
Tudalen Wedi Ei Diweddaru: 05/03/20