
Mae Busnesa yn gwmni o fewn Partneriaeth Ogwen sydd yn darparu ystod eang o wasanaethau yn unol ag anghenion busnesau a mudiadau o bob math.
Mae gan ein tîm mewnol ystod eang o sgiliau ac arbenigeddau a phrofiad blynyddoedd o weithio efo cleientiaid lleol a chenedlaethol.
Mae ein prisiau yn gystadleuol a gallwn eich cyfarfod i drafod eich anghenion a darparu dyfynbris ar sail hynny.
MARCHNATA DIGIDOL
Gallwn eich helpu chi efo gwaith:
Ffotograffiaeth
Fideo
Datblygu Logo a Thaflenni Hyrwyddo
Datblygu Ymgyrchoedd Cyfryngau Digidol
Mae'n cleientiaid a phartneriaid dros y blynyddoedd diwethaf yn cynnwys Google, BBC, Futurenet, Awdurdodau Lleol, Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt, RSPB, busnesau cysylltiadau cyhoeddus, cymdeithasau tai, bwytai a gwestai a busnesau o bob math.
CEFNOGI BUSNES
Cadw llyfrau
Llunio Cynlluniau Busnes
Ymgynghori
Rheoli Prosiect
Mae'n tîm ymgynghorol wedi darparu gwasanaethau cefnogi i ystod eang o fudiadau a busnesau yn lleol yn cynnwys Neuadd Ogwen, Ffarm Moelyci, Cynghorau Cymuned Dyffryn Ogwen, Dyffryn Nantlle 2020, Ynni Ogwen ac Energy Local. Mae gan aelodau o'r tim brofiad degawdau o gefnogi a chynghori busnesau a mudiadau cymunedol ar draws Cymru.
Galeri
























Tudalen Wedi Ei Diweddaru: 06/03/20