
Mae Partneriaeth Ogwen wedi llwyddo i gael car trydan cymunedol i’n cymuned hyd at fis Tachwedd 2020 a hynny trwy gynllun Ceir Trydan Cymunedol Arloesi Gwynedd Wledig. Bydd y Nissan LEAF – ‘Carwen’ ar gael i unrhyw un ddefnyddio fesul awr neu ddiwrnod a’n bwriad yw cysylltu cynhyrchiant ynni cymunedol Ynni Ogwen i’r gwefrwr sy’n trydanu’r car. Prif bwrpas y cynllun yw defnyddio’r car i :
·Godi ymwybyddiaeth o geir trydan ac annog defnydd o gar cymunedol
·Helpu unigolion nad ydyn nhw’n gallu gyrru i fynd i apwyntiadau meddygol a chymdeithasol
Y car
Nissan LEAF 40kWh 5 drws yw “Carwen”. Ar gyfartaledd, gallwch yrru rhwng 110-150 milltir tan fod angen ail-wefru. Rydym yn cadw “Carwen” mewn llecyn parcio pwrpasol â gwefrydd yn Llyfrgell Bethesda. Wrth archebu, dyma lle byddwch yn codi ac yn dychwelyd “Carwen”.
https://goo.gl/maps/VyoTuQuTL1b8gxGz7
Sut i archebu'r car
Mae’r car yn cael ei reoli drwy Glwb Ceir Co-Wheels a bydd angen i ddefnyddwyr gofrestru gyda Co-Wheels (£5 gyda’n cod hyrwyddo) i ddefnyddio’r car. Yna, anfonir cerdyn clyfar atoch a bydd angen i chi gael mynediad i’r car pan fyddwch yn ei archebu, felly cofrestrwch mewn digon o amser cyn i chi wneud eich archeb cyntaf.
Defnyddiwch y cod hyrwyddo AGW20 pan yn cofrestru.
Mae hyn yn rhoi disgownt cofrestru o £20 (gan ei wneud yn £5 i gofrestru) a hepgor y lleiafswm gwariant misol o £5.
- Cofrestrwch gyda Co-wheels drwy’r ddolen hon https://gwynedd.book.co-wheels.org.uk/auth/register gan ddefnyddio’r cod hyrwyddo AGW20
- Gosodwch eich proffil gyrrwr (byddwch angen eich Rhif Yswiriant Gwladol a chod gwirio trwydded yrru https://www.gov.uk/view-driving-licence)
- Bydd eich manylion yn cael eu gwirio
- Byddwch yn derbyn eich pecyn aelodaeth gyda cherdyn clyfar
- Archebwch “Carwen” - https://gwynedd.book.co-wheels.org.uk/
Mae Co-Wheels yn darparu yswiriant, gorchudd torri i lawr a llinell gymorth 24 awr i ddefnyddwyr. Mae manylion llawn, (gan gynnwys tâl dros ben), telerau ac amodau ar eu gwefan.
Prisiau llogi
Awr - £3
Dros nos* - £6
Diwrnod** - £21
Y filltir - Free
*8pm-8am
**Unrhyw gyfnod 24 awr
Mae gan “Carwen” wahanol brisiau i Glwb Ceir Co-Wheels eraill. Os ydych yn archebu ceir Co-Wheels, bydd prisiau gwahanol yn berthnasol.
Defnydd Cymunedol
Bydd y car ar gael i helpu unigolion nad ydynt yn gallu gyrru ar hyn o bryd i'w cludo i apwyntiadau meddygol a chymdeithasol. Os oes gennych ddiddordeb yn y gwasanaeth yma neu os hoffech fod yn un o'n gyrrwyr gwirfoddol i helpu efo'r prosiect yma, cysylltwch a Enable JavaScript to view protected content. neu 01248 602131
Mwy o wybodaeth
Am fanylion pellach am gefndir y cynllun, gweler YMA https://docs.google.com/document/d/14PbAcTZcQQqj7RiymilO_9ax5usQlSa4lTnDT60DyCA/edit?usp=sharing
Tudalen Wedi Ei Diweddaru: 02/10/21