
Ar ran Cyngor Cymuned Bethesda, mae Partneriaeth Ogwen wedi bod yn ymgynghori ar ddatblygu maes parcio newydd i breswylwyr y Gerlan. Cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus a dosbarthwyd holiaduron i holl breswylwyr y Gerlan ddiwedd mis Hydref a bydd y Cyngor yn derbyn adroddiad ar yr ymgynghoriad cyhoeddus er mwyn eu helpu i ddod i benderfyniad am ariannu datblygu’r cynllun.
Tudalen Wedi Ei Diweddaru: 02/10/21