
Ar yr 8fed o Fawrth 2019, cynhaliwyd diwrnod arbennig i ddathlu mentergarwch Dyffryn Ogwen. Yn ystod y dydd cafwyd cyflwyniadau a gweithdai yng nghwmni mentrau cymunedol y Dyffryn yn cynnwys Clwb Rygbi Bethesda, Tabernacl - Neuadd Ogwen, Caban Cysgu Gerlan, Ynni Ogwen a'r Bartneriaeth. Yn ogystal, cafwyd cyflwyniadau gan fentrau cymdeithasol o Flaenau Ffestiniog a Phenygroes gan roi cyfle i rannu profiadau a syniadau. Roedd y diwrnod yn gyfle i Bartneriaeth Ogwen rannu gwybodaeth am ein gwaith datblygu cymunedol a cafwyd adborth cadarnhaol i'r holl ddigwyddiad.
Tudalen Wedi Ei Diweddaru: 07/03/22