
Mae Dyffryn Gwyrdd yn brosiect wedi'i leoli yn Dyffryn Ogwen sy'n canolbwyntio ar gynaliadwyedd a'r amgylchedd, wrth fynd i'r afael â lles meddyliol, gwahanol fathau o dlodi, ac arwahanrwydd gwledig. Fe'i hariennir gan y Loteri Genedlaethol a bydd yn rhedeg am dair blynedd, rhwng Medi 2020 a 2023.
Byddwn yn datblygu’r Dyffryn Gwyrdd i fod yn esiampl o ddatblygiad cynaliadwy gyda chynllun trafnidiaeth gymunedol, cynnal gerddi cymdeithasol, creu systemau i gynhyrchu a dosbarthu bwyd a phrydau, creu cynnydd mewn cyfleoedd gwirfoddoli, gwella sgiliau a chreu swyddi.
Byddem hefyd yn datblygu Hwb y Dyffryn Gwyrdd yn Stryd Fawr Bethesda i fod yn ganolfan ar gyfer cyngor a chymorth ar effeithlonrwydd ynni i’n trigolion. Bydd hyn yn grymuso’n cymunedau i wireddu’n gweledigaeth o gymuned deg, gynaliadwy ddwyieithog sy’n cydweithio i liniaru ar dlodi drwy gydweithio amgylcheddol.
Bwyd a gerddi
-
Plannu Coed - Rydym yn cymryd rhan mewn amryw o brosiectau plannu coed parhaus o amgylch Dyffryn Ogwen. Mae coed cynhenid nid yn unig yn darparu lloches a bwyd i adar ac anifeiliaid, mae hefyd yn helpu i atal newid hinsawdd drwy amsugno CO2 o'r aer ac yn sefydlogi lefel y dŵr. Yn 2020, plannwyd coed derw gaethon ni fel rhodd gan gwmni DEG yn y Gerlan a gyda help yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Nant Ffrancon.
-
Perllanau Ogwen - Y bwriad wrth greu perllanau cymunedol yw dod â phobl at ei gilydd, dysgu sut i drin coed ffrwythau, dysgu am gynefinoedd a rhywogaethau pwysig. Wrth weithio gyda'n gilydd, gallwn gynyddu faint o fwyd lleol a thymhorol sydd ar gael (yn rhad ac am ddim!), bwyta a phrosesu bwyd gyda'n gilydd, lleihau unigrwydd, ac efallai hyd yn oed creu cyfle am fusnes bach neu ddau? Rydym wedi plannu coed ffrwythau mewn 6 safle ar hyd yn dyffryn yn ngaeaf 2020-21 (gyda grantiau gan Ffermydd & Gerddi Cymdeithasol a Chyngor Gwynedd), wedi rhoi coed i unigolion, a byddwn yn dod at ein gilydd eto fel grŵp perllan unwaith mae'r rheolau yn caniatau hynny.
-
Gerddi a rhandiroedd - Mae gennym nifer o brosiectau ar y gweill yn ymwneud â gerddi a rhandiroedd (dechrau 2021). Bwriad prosiectau garddio unwaith eto yw dod at ein gilydd i leihau unigrwydd, tyfu bwyd lleol i'w defnyddio yn ein cymuned, dysgu oddi wrth ein gilydd am arddio a choginio. Mae garddio hefyd yn llesol fel ymarfer corff ac yn dda i gael gwared o stress! Hefyd wrth gwrs mae'n gyfle i harddu'r ardal gyda blodau a pherthi sy'n denu pryfed sy'n bwysig wrth beillio'r cnydau i gyd! A chreu digwyddiadau o gwmpas bwyd!
-
Cronfa Cefnogi Covid-19 - Mewn ymateb i Covid, rydym wedi helpu pobl gyda tlodi bwyd, tanwydd ac eitemau eraill. Gellir dod o hyd i fanylion ar y dudalen Facebook hon.
Egni
-
Ymgynghoriaeth a chyngor, gan weithio gyda Cyd Ynni, ar effeithlonrwydd ynni yn y cartref.
-
Help gyda thlodi tanwydd.
-
Prosiectau sy'n edrych ar ffynonellau tanwydd.
Trafnidiaeth
Cerbydau trydan
Rydym yn ehangu ein defnydd o gerbydau trydan, gyda'r nod o wneud y mwyaf o'u potensial i helpu'r gymuned, yr economi leol a'r amgylchedd.
Mae rhai o'r defnyddiau hyn yn cynnwys:
- i gludo danfoniadau bwyd Cadwyn Ogwen
- pryd ar glud trwy brosiect Cyfaill Cymunedol
- i hebrwng cleifion i’w apwyntiadau
- i logi allan gan y cyhoedd
- i gludo pobl i fyny at Lyn Ogwen o Fethesda
Beiciau trydan
Rydym yn anelu at greu fflyd o feiciau trydan. Nod y rhain fydd
- I daclo tlodi trafnidiaeth
- i leihau’r maint o deithiau yn geir
- i logi allan i’r cyhoedd
- gweithdy i’w trwsio ac i bobl dysgu sgiliau cadw a chynnal beiciau
Llesiant
Mae gennym nifer o brosiectau a chyfleoedd gwirfoddoli sy'n targedu unigrwydd, lles a chryfder cymunedol.
- Cyfaill Cymunedol - Mewn partneriaeth â chaffi lleol, rydym yn darparu gwasanaeth Pryd ar Glud a chynlluniau i hyrwyddo cynhwysiant digidol. Darperir cyfleoedd gwirfoddoli mewn perthynas â'r prosiectau a restrir uchod.
LAWRLWYTHIADAU
Fideo
Galeri
Tudalen Wedi Ei Diweddaru: 09/02/21