
Yn dilyn cyfnod o ymgynghori a thrafod gyda Chyngor Gwynedd a’r tri chyngor cymuned lleol, mae’n dda gallu dweud fod Partneriaeth Ogwen bellach wedi arwyddo prydles 3 mlynedd ar adeilad llyfrgell Bethesda. Bydd y Bartneriaeth yn gyfrifol am gynnal a chadw’r adeilad a’n bwriad yw cynyddu’r defnydd cymunedol a wneir o’r cyfleuster. Bydd Cyngor Gwynedd yn parhau i redeg gwasanaeth llyfrgell o’r adeilad a bydd yr oriau agor yn ddi-gyfnewid. Mae’r ystafell ble’r oedd y llyfrgell blant bellach ar gael i’w llogi ar gyfer defnydd cymunedol felly cysylltwch â swyddfa Partneriaeth Ogwen os hoffech logi’r ystafell. Yn ystod mis Medi, bydd yr artistiaid Helen Harris a John Clinton yn cynnal stiwdio i arddangos eu gwaith yn yr ystafell gymunedol fel rhan o gynllun yr Helfa Gelf. Bydd yr arddangosfa ar agor i’r cyhoedd ar y 7fed, 8fed, 21ain a’r 22ain o Fedi a mae croeso mawr i’r cyhoedd ddod i ymweld.
Meddai Dafydd Meurig, Cadeirydd Partneriaeth Ogwen:
“Mewn cyfnod o doriadau ar lefel sirol, mae’n braf gweld cydweithio creadigol ar lefel gymunedol i sicrhau fod adeilad fel y Llyfrgell yn parhau yn adnodd i’r gymuned yn Nyffryn Ogwen. Mae Partneriaeth Ogwen yn ddiolchgar i Gyngor Gwynedd ac hefyd i’r Cynghorau Cymuned am eu cefnogaeth i’r fenter hon ac edrychwn ymlaen i ddatblygu’r adeilad a chynyddu ei ddefnydd.”
Bwriad y Bartneriaeth yw cynyddu defnydd o’r adeilad felly os oes gennych unrhyw syniadau, mae croeso i chi gysylltu â Meleri Davies, Prif Swyddog Partneriaeth Ogwen ar Enable JavaScript to view protected content. neu 01248 602131 i drafod ymhellach.
Galeri


Tudalen Wedi Ei Diweddaru: 24/09/18