
“Mae Twinkle & Gloom yn artist ifanc o Ogledd Cymru. Mae ei byd o enethod pruddglwyfus yn ddathliad o fenyweidd-dra ac yn fynegiant o rwystredigaeth, ofn a swildod. Wedi ei hysbrydoli gan y wynebau ailadroddus yn y cylchgronau a’r cyfryngau a’r gwahanol dueddiadau yn y diwydiant modelu, mae ei chymeriadau yn ymagwedd wahanol i harddwch.” – Twinkle & Gloom. Mae creadigwydd wedi bod gyda fi drwy gydol fy mhlentyndod i hyd at oedolaeth. Mae gwneud lluniau a gwneuthuro wedi fy helpu i i fynegi fy hun fel person ac fel dynes ifanc. Mae fy ngwaith celf yn cyffwrdd ar lawer o’r hyn rwy’n ei garu a’i gasáu ynglŷn â chymdeithas, morbidrwydd, ofnau, pryderon ac atgofion plentyndod, ac wedi ei ysbrydoli gan fy obsesiynau mewn bywyd. Mae fy nelweddaeth plentynaidd yn cuddio materion tywyllach, mae ymdeimlad tyfn tu ôl i’m gwaith, ond mae’n rhaid i chi edrych amdano. Er nad yw fy ngwaith am fenyweidd-dra yn unig, mae fy ngwaith yn cyffwrdd ar fy nheimladau am fenyweidd-dra, fy marn ar faterion ffeministaidd, rhywioldeb, y plentyn oddi mewn ac ofnau. Mae fy wynebau ailadroddus wedi eu dylanwadu gan y tueddiadau yn y diwydiant modelu, y “rhaid cael” i fod yn brydferth fel y llygaid pwdlyd, aeliau mawr beiddgar a gwefusau fel doli. Mae’r cyfuniad o’r tueddiadau harddwch hyn yn ffordd wahanol o edrych ar ein disgwyliadau. Dwi’n credu’n gryf mewn defnyddio fy ymennydd, nid fy nghorff, i rymuso ac ysbrydoli ac mae hyn yn treiddio’n ddyfn i mewn i’r ffordd dwi’n creu. Mae fy morbidrwydd a synnwyr digrifwch tywyll/sych hefyd yn treiddio’n ddyfn i mewn i fy ngwaith; dwi wrth fy modd gydag ychydig o goegni a’r anghyffredin, mae ychydig o hiwmor yn gwneud goleuni o faterion tywyll.
Galeri


Tudalen Wedi Ei Diweddaru: 08/12/16