Partneriaeth Ogwen Clerk

 

 

Partneriaeth Ogwen Clerk

Mae Partneriaeth Ogwen yn darparu gwasanaeth clercio i dri o Gynghorau Cymuned Dyffryn Ogwen, sef Cynghorau Cymuned Bethesda, Llanllechid a Llandygai. Mae Partneriaeth Ogwen am penodi Clerc i weinyddu gwaith a cyllideb 2 Cyngor Cymuned, sef Bethesda a Llandygai. Gan ddal swydd gyfreithiol a chyhoeddus gyfrifol, bydd y Clerc yn gweinyddu materion y Cyngor ac yn sicrhau bod cyfarwyddiadau’r Cyngor yn cael eu cyflawni mewn perthynas â’i ddyletswyddau fel awdurdod lleol.

Bydd y Clerc yn gweithio o swyddfa'r Bartneriaeth ar Stryd Fawr, Bethesda gan ymateb i ymholiadau trigolion lleol ac ymwelwyr i'r swyddfa. Bydd y Clerc yn gyfrifol am wneud gwaith clercio i’r ddau Gyngor Cymuned gan gydlynu cyfarfodydd ac arwain ar waith dilynol. Bydd deiliad llwyddiannus y swydd yn cynghori’r Cyngor wrth ffurfio ei bolisïau a’i weithgareddau cyffredinol. Yn benodol, cynhyrchu’r holl wybodaeth berthnasol sydd ei hangen ar gyfer gwneud a gweithredu penderfyniadau effeithiol.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Enable JavaScript to view protected content.

The ability to communicate in Welsh is essential for this role, but we do accept applications from Welsh learners.

Downloads

Job Description [119.0 kB]

Person Specification [24.0 kB]

Application Form [41.8 kB]


Partneriaeth OgwenCyfenierERDFCyngor Gwynedd

Page updated: 08/09/25

© 2025 Partneriaeth Ogwen

Processwire Powered by ProcessWire - Dab Design