Hafan

Menter gymdeithasol sy’n gweithio er budd economi, amgylchedd a chymunedau Dyffryn Ogwen

Fel menter gymunedol rydym yn

  • Darparu gwasanaeth clercio i gynghorau cymuned yr ardal
  • Datblygu prosiectau adfywio cymunedol, economaidd ac amgylcheddol
  • Rheoli eiddo a datblygu prosiectau trosglwyddo asedau cymunedol
  • Cefnogi prosiectau sy’n creu cymuned iach, bywiog a chynaladwy

Sefydlwyd Partneriaeth Ogwen yn 2013, a hynny trwy gydweithio arloesol gan Gynghorau Cymuned Bethesda, Llanllechid a Llandygai i ddarparu gwasanaeth clercio i’r 3 chyngor ac i ddatblygu prosiectau cymunedol.

Ers ein sefydlu, rydym wedi agor Swyddfa Ogwen a Siop Ogwen ar Stryd Fawr Bethesda, rheoli eiddo yn cynnwys fflatiau, busnesau a Llyfrgell Gymunedol Dyffryn Ogwen. Rydym hefyd wedi datblygu prosiectau amgylcheddol llwyddiannus yn cynnwys sefydlu cynllun hydro cymunedol Ynni Ogwen.

Adroddiad Blynyddol

Adroddiad Blynyddol Partneriaeth Ogwen 2023 (Cymraeg) [4.5 MB]

Adroddiad Blynyddol Partneriaeth Ogwen 2023 (Saesneg) [3.7 MB]


Partneriaeth OgwenCyfenierERDFCyngor Gwynedd

Tudalen wedi ei diweddaru: 29/08/24

© 2024 Partneriaeth Ogwen

Processwire Wedi'i bweru gan ProcessWire - Dab Design