Mae Dyffryn Caredig yn un o brosiectau Partneriaeth Ogwen sy'n canolbwyntio ar drafnidiaeth cymunedol.
Mae'r prosiect yma yn dilyn llwyddiant brosiect Dyffryn Gwyrdd, oedd yn brosiect 3 mlynedd ariennwyd gan Gronfa Cymunedol y Loteri Genedlaethol.
Ein bwriad gyda'r prosiect hwn yw darparu fflyd o gerbydau a beics trydan ar gyfer defnydd cymunedau Dyffryn Ogwen - Beics Ogwen a Bws Ogwen.
Rydym yn cydweithio'n agos gydag ysgolion, cymdeithasau a sefydliadau y Dyffryn i ddarparu cludiant werdd o ddrws i ddrws ar gyfer trigolion yr ardal.
Dyma'r cerbydau sydd yn rhan o fflyd Partneriaeth Ogwen:
Bysiau mini
Dau fws mini trydan - Un bws 10 sedd gyda gyrrwr a hygyrch i gadair olwyn / Un bws 16 sedd i grwpiau mwy
Prisiau yn amrywio yn ddibynnol ar bellter a niferoedd. Cysylltwch am ddyfynbris ac am fwy o wybodaeth.
Mae'r cerbydau hyn ar gael i'w llogi gyda gyrrwr sydd wedi dilyn cwrs hyfforddiant MIDAS. Roedd y bws mawr yn rhôdd gan Ynni Ogwen ac mae'n cael ei ddefnyddio yn rheolaidd gan ysgolion a chymdeithasau'r dyffryn. Defnyddir y ddau fws hefyd ar gyfer teithiau hamdden a lles - o deithiau i ganolfannau garddio, siopa mewn archfarchnadoedd, cystadlaethau chwaraeon a digwyddiadau diwylliannol.


Efan
Cerbyd trydan 7 sedd hygyrch i gadair olwyn ar gael gyda gyrrwr
Prisiau yn amrywio, gan ddechrau @65c y filltir.

Tryfan
Fan trydan 2 sedd.

Megan
Car trydan 5 sedd, hatchback ar gael i'w hurio ar TrydaNi o Ionawr, 2025 ymlaen.

Beics Ogwen
Mae gennym feiciau trydan ar gael i'w llogi neu eu benthyg.
Mae gennym feiciau hygyrch a beiciau ochr yn ochr.
Cysylltwch i ymholi am bris.
Am ragor o wybodaeth ewch i dudalen Beics Ogwen
Ar gael ar gyfer teithiau hamdden, digwyddiadau cymdeithasol a theithiau ysgolion.


Manylion Cyswllt
| Enw Cyswllt | Esme Sethi |
| Cyfeiriad | 27 Stryd Fawr, Bethesda LL57 3AE |
| Symudol | +447394906036 |
| E-bost | E-bost |
Fideo
@partneriaethogwen Megan y Megane, car drydan ar gael i’w hurio nawr trwy app TrydaNi! #Cymuned #Cymraeg #CludiantCymunedol #CommunityTransport #CludaintGwyrdd #GreenTransport #tiktokpoll ♬ Amsterdam - Gregory Alan Isakov
Map Lleoliad
Oriel



Tudalen wedi ei diweddaru: 18/06/26