Beics Ogwen

Mae Beics Ogwen yn rhan o brosiect Trafnidiaeth Gymunedol Partneriaeth Ogwen ac fe’i ariennir gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol

Beics Ogwen

Mae Beics Ogwen yn rhan o brosiect Trafnidiaeth Gymunedol Partneriaeth Ogwen ac fe’i ariennir gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

Mae gennym feiciau trydan a beiciau arferol ar gael i'w llogi ar gyfer trigolion lleol ac ymwelwyr fel rhan o'n gwaith i hybu trafnidiaeth cynaliadwy a thwristiaeth werdd, felly holwch i weld pa feics sydd gennym ar gael.

Eisiau trin neu thrwsio eich beic? Rydym bellach yn cydweithio'n agos gyda chwmni Deep Cycles sy'n cynnig gwasanaeth trin a thrwsio beics yma yn Nyffryn Ogwen. Cysylltwch â ni i wneud ymholiadau. Gallwn hefyd ddarparu cyngor ynghylch â'ch beic.

Ein nod gyda Beics Ogwen yw hyrwyddo lles a'r amgylchedd trwy annog mwy o bobl i feicio yn amlach. Rydym yn cydweithio gyda ysgolion a chymdeithasau lleol ac yn awyddus i hyrwyddo beicio ar hyd a lled Dyffryn Ogwen yn ein gwaith tuag at twrisitaeth gwyrdd.

Cysylltwch hefyd os hoffech chi wirfoddoli i drwsio beiciau, neu os hoffech chi roi beiciau, darnau neu offer.

Trefnir digwyddiadau trwy gydol y flwyddyn, sydd i'w gweld ar y wefan hon ar dudalen Dyffryn Caredig a tudalen Facebook Beics Ogwen.

Mae Morgan ein Swyddog Beics yn gweithio Dydd Mercher, Iau a Gwener a mae croeso mawr i chi alw heibio am sgwrs.


Manylion Cyswllt

Enw Cyswllt Morgan Griffith
Cyfeiriad Canolfan Cefnfaes, Rhes Mostyn, Bethesda, Gwynedd, LL57 3AD
Symudol 07394 906036
E-bost E-bost
FaceBook Gweld
Instagram Gweld

Fideo


Map Lleoliad


Oriel

Beics Ogwen
Beics Ogwen
Beics Ogwen
Beics Ogwen
Beics Ogwen
Beics Ogwen
Beics Ogwen
Beics Ogwen
Beics Ogwen
Beics Ogwen
Beics Ogwen

Partneriaeth OgwenCyfenierERDFCyngor Gwynedd

Tudalen wedi ei diweddaru: 02/10/25

© 2025 Partneriaeth Ogwen

Processwire Wedi'i bweru gan ProcessWire - Dab Design