
Beth sydd ar gael yn Hwb Ogwen?
Dydd Llun i Ddydd Gwener.
- Pecyn bwyd – hyd at 6 eitem ar gael yn wythnosol i unrhyw un sydd mewn argyfwng (pasta/reis/grawnfwyd/bara/llefrith/beans/saws parod) ac yn gallu cyfeirio unigolion at fanc bwyd lleol
- Talebau ynni (yn dilyn pasio meini prawf)
- Cyngor arbed ynni
- Cyngor am fudd-daliadau
- Cyngor ar filiau cartref – dŵr, nwy, trydan
- Cymorth gyda llenwi ffurflenni e.e tocyn bws, cais am fathodyn glas
- Sesiynau galw heibio gan Gwaith Gwynedd, Cyngor ar Popeth (CAB) a Gwynedd ddigidol
Rydym yn chwilio am grantiau i barhau gyda Hwb Ogwen yn 2026, ac rydym angen ystadegau o'r effaith mae’r gwasanaethau rydym yn eu gynnig i gyflwyno i gyllidwyr. Bydd ystadegau o'r arolwg hwn yn helpu ni ddangos yr angen am yr Hwb ar Stryd Fawr Bethesda.
Bydd yr atebion yn hollol ddienw, ac yn cael eu defnyddio fel cefnogaeth i geisiadau grant - Arolwg Effaith Hwb Ogwen
Manylion Cyswllt
Enw Cyswllt | Hwb Ogwen |
Cyfeiriad | 27 Stryd Fawr, Bethesda, LL57 3AR |
Symudol | +44 7862 694163 |
E-bost | E-bost |
Gweld |
Fideo
@partneriaethogwen ????Bydd Hwb Ogwen yn symyd i 27 Stryd Fawr, Bethesda ar Ebrill 15fed!! #Community #NorthWales #FYP #Cymraeg #DyffynOgwen ♬ Roxanne - Instrumental - Califa Azul
@partneriaethogwen Diweddariad Hwb Ogwen, yma i helpu’r gymuned! #Cymraeg #Community #GogleddCymru #DyffynOgwen ♬ original sound - Partneriaeth Ogwen
Map Lleoliad
Oriel


Tudalen wedi ei diweddaru: 01/07/25