Becca Hughes

Becca Hughes

Swyddog Llyfrgell y Petha

'Dwi'n gweithio i Partneriaeth Ogwen fel Swyddog Llyfrgell y Petha, 'dwi wedi edmygu'r gwaith mae Partneriaeth Ogwen yn 'neud yn y gymuned ers erioed. 'Dwi'n gyffrous iawn i sefydlu Llyfrgell y Petha. 'Dwi wedi cael fy magu ym Methesda,' dwi'n fam i dri a 'dwi hefyd yn rhedeg busnes fy hun o’r enw Llonyddwch yn neud iachâd sain trwy redeg sesiynau bath gong. Mi fues i'n gweithio'n Ysbyty Gwynedd am 11 mlynedd felly mae'r swydd yma yn newid byd. 'Dwi'n edrych ymlaen lansio'r llyfrgell a helpu'r amgylchedd efo ail ddefnyddio ac ailgylchu.

Partneriaeth OgwenCyfenierERDFCyngor Gwynedd

Tudalen wedi ei diweddaru: 18/06/26

© 2026 Partneriaeth Ogwen

Processwire Wedi'i bweru gan ProcessWire - Dab Design